Un o dadau cenedlaetholdeb modern yw Emrys ap Iwan (1848–1906), y pregethwr Methodist o Ddyffryn Clwyd. Hon yw’r gyfrol gyntaf arno sy’n dadansoddi’n fanwl seiliau beiblaidd a chrefyddol ei weledigaeth. Mae’n cloriannu ei gefndir a’i fagwraeth, ei addysg yng Ngholeg y Bala ac ar y cyfandir, y dylanwadau Ewropeaidd arno, a’r modd yr aeth ati i ddwyn perswâd ar ei gyfoeswyr i ymwrthod â’r bydolwg Prydeinig a Seisnig. Ceir yn ei homilïau athrawiaeth Gristnogol aeddfed a gwâr, wedi’i mynegi mewn Cymraeg rhywiog ac yn gyfraniad arhosol i feddwl y genedl; mae’r cysyniadau o ras, gobaith a gogoniant yn cael lle blaenllaw. Yn ogystal ȃ thrafod ei gyd-destun hanesyddol, mae’r gyfrol hefyd yn tanlinellu gwreiddioldeb gwaith Emrys ac yn pwysleisio’i berthnasedd i’r Gymru gyfoes.
قائمة المحتويات
Rhagair
Rhestr dyddiadau a ffeithiau bywgraffyddol
Byrfoddau
Pennod 1: Emrys ap Iwan yn yr ugeinfed ganrif a thu hwnt
i. T. Gwynn Jones a Saunders Lewis
ii. R. T. Jenkins a D. Myrddin Lloyd
iii. Yr adwaith a chanol y ganrif
iv. Y saithdegau a’r wythdegau
v. Y ganrif newydd
Pennod 2: Y Beibl a’r cyd-destun diwinyddol
i. Emrys ap Iwan a’r Beibl
ii. Y cyd-destun diwinyddol
Pennod 3: Emrys ap Iwan a sylwedd y ffydd
i. Trindodaeth a’r athrawiaeth am Dduw
ii. Cristoleg ac athrawiaeth yr iawn
Pennod 4: Ufudd-dod ffydd, yr eglwys a’r sacramentau
i. Ffydd, gweithredoedd a phrofiad
ii. Athrawiaeth Emrys am yr eglwys
iii. Y sacramentau: bedydd a’r cymun
Pennod 5: Cenedlaetholdeb a diwinyddiaeth diwylliant
i. Cenedlaetholdeb Emrys
ii. Y gorchymyn diwylliannol
Pennod 6: Eschatoleg a’r Farn
Pennod 7: Bwrw golwg yn ôl
Mynegai