Mae’r gyfrol hon yn cynnig golwg newydd ar ddelweddau cyfarwydd y ffotograffydd John Thomas (1838–1905), wrth eu gosod yng nghyd-destun llenyddol a syniadol Cymru yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyma’r astudiaeth fanylaf o waith John Thomas hyd yma, sy’n torri cwys newydd wrth ddadansoddi’r delweddau ochr yn ochr â llenyddiaeth Gymraeg ei gyfoedion. Mae’r gyfrol hefyd yn trafod perthynas Thomas ag O. M. Edwards, ac yn ystyried goblygiadau amwys y berthynas i’r modd y darllenir gwaith y ffotograffydd hyd heddiw; ac, mewn cyd-destun ehangach, cymherir gwaith Thomas â phrosiect y ffotograffydd Almaenig August Sander (1876–1964) i’r ugeinfed ganrif, gan gynnig dadansoddiad o weledigaeth greadigol ac arloesol y Cymro.
Tabla de materias
RHESTR DDELWEDDAU
RHAGARWEINIAD
ADRAN 1. CYFLWYNIAD
1. THEMÂU A METHODOLEG
2. HANES CRYNO I FFOTOGRAFFIAETH YNG NGHYMRU A THU HWNT YNG NGHYFNOD JOHN THOMAS
3. JOHN THOMAS A’R CAMBRIAN GALLERY: GWELEDIGAETH CYMRO LERPWL O GYMRU OES FICTORIA
ADRAN 2. YMATEB NOFELYDDOL JOHN THOMAS I’W GYFRWNG
4. Y DDELWEDD A’R GAIR
5. Y GAIR A WNAETHPWYD YN ORTHRWM: HETEROGLOSSIA A MONOGLOSSIA……
6. CYFRYNGAU CYNNYDD: PORTREADAU O DALHAIARN A SAMUEL ROBERTS, LLANBRYNMAIR
ADRAN 3. SYNIADAETH YR OES MEWN LLÊN A LLUN
7. ‘Y DOGMA O ANSICRWYDD’: DANIEL OWEN A’R NARATIF DARWINAIDD
8. ‘APPEARANCE, APPEARANCE’: DANIEL OWEN, JOHN THOMAS AC YMDDANGOSIAD CYMRY OES FICTORIA
9. ‘ANGENRHEIDRWYDD’ ROBIN BUSNES A ‘CHARICTORS’ ERAILL I GYMRU OES FICTORIA
ADRAN 4. CYMRU A CHYMREICTOD OES FICTORIA
10. ‘CYNNYDD TRI UGAIN MLYNEDD’: JOHN THOMAS, OPTIMYDD EI GYFNOD?
11. JOHN THOMAS A’R WISG GYMREIG
ADRAN 5. Y FFOTOGRAFFYDD, Y GOLYGYDD A’R ARCHIF
12. CYMRU JOHN THOMAS YN YR ARCHIF
13. Y FFOTOGRAFFYDD A’R GOLYGYDD
14. ‘YR ALBUM COFFADWRIAETHOL CYMREIG’: CYFLWYNO’R WELEDIGAETH
ADRAN 6. JOHN THOMAS AC AUGUST SANDER: DAU FFOTOGRAFFYDD, DAU GYFNOD A DWY GENEDL
15. COFNODI GWEDD EIN CYFNOD
16. CYMRU A’R ALMAEN AR DROTHWY’R DYFODOL
CRYNODEB A CHASGLIADAU
LLYFRYDDIAETH