Huw L. Williams 
Credoau’r Cymry [EPUB ebook] 
Ymddiddanion Dychmygol ac Adlewyrchiadau Athronyddol

Ondersteuning

Trwy driniaeth wreiddiol a gafaelgar o rai o ffigyrau adnabyddus Cymru, mae Huw L. Williams yn amlygu nifer o’n credoau fel cenedl, sydd wedi profi’n ddylanwadol yng Nghymru a thu hwnt. Cyflwynir trafodaethau gwleidyddol, moesol a diwinyddol trwy ffurf ymddiddanion dychmygol, gyda sylwebaeth athronyddol ar elfennau canolog yr athrawiaethau hynny. Ymysg y sawl sy’n amlwg yn y gyfrol y mae Glyn Dŵr, Robert Owen, Lady Llanover a Henry Richard, gyda’u syniadau pwysicaf wedi’u cyflwyno ar ffurf ymgom difyr sy’n cynnig cyflwyniad hygyrch i’r darllenydd. Yn dilyn pob ymgom, daw dadansoddiad o’r syniadau hynny i roi cyfrif trwyadl o ambell gysyniad a gosod cwestiynau gerbron ynglŷn â grym a dilysrwydd y gwahanol gredoau. Pwysleisir yn arbennig y cysylltiadau anwahanadwy gyda thueddiadau deallusol ehangach Ewrop a’r modd y mae syniadaeth yng Nghymru wedi dylanwadu, ac wedi’i ddylanwadu gan, y cyd-destun ehangach. Ymhlyg yn y driniaeth yma o syniadaeth Gymreig ceir ymgais i amlygu sut y mae ystyriaethau athronyddol ynghlwm yn ein bywyd cyfunol, yn ogystal ag awgrym bod yna hanes syniadau neilltuol yn perthyn i Gymru. Dyma roi sylw priodol felly i sylwedd athronyddol y traddodiad deallusol hwnnw, a chynnig dathliad o’n credoau fel cenedl.

€12.99
Betalingsmethoden

Inhoudsopgave

1. Gosod yr Olygfa
2. Natur Ddynol – Pelagius
3. Cyfraith a Gwladwriaeth – Hywel Dda a Glyn Dŵr
4. Y Da, Y Duwiol a’r Gwleidyddol – Richard Price
5. Addysg, Cymuned a Chyfalafiaeth – Robert Owen
6. Heddychiaeth – Henry Richard a David Davies
7. Sosialaeth – Aneurin Bevan a Raymond Williams
8. Cenedlaetholdeb – Lady Llanover, Michael D Jones a JR Jones
9. Diweddglo

Over de auteur

Darllenwyr lleyg, disgyblion y 6ed, myfyrwyr israddedig ac ymchwilwyr fel ei gilydd.

Koop dit e-boek en ontvang er nog 1 GRATIS!
Formaat EPUB ● Pagina’s 240 ● ISBN 9781783168828 ● Bestandsgrootte 1.2 MB ● Editor Huw L. Williams ● Uitgeverij University of Wales Press ● Gepubliceerd 2016 ● Editie 1 ● Downloadbare 24 maanden ● Valuta EUR ● ID 4915045 ● Kopieerbeveiliging Adobe DRM
Vereist een DRM-compatibele e-boeklezer

Meer e-boeken van dezelfde auteur (s) / Editor

42.830 E-boeken in deze categorie