Dyma’r astudiaeth gyflawn gyntaf o eirfa Dafydd ap Gwilym. Dangosir ynddi sut y creodd Dafydd farddoniaeth gyfoethog ac amlweddog trwy gyfuno ieithwedd hen a newydd, llenyddol a llafar, brodorol ac estron. Trafodir y geiriau a gofnodwyd am y tro olaf yn ei waith, a’r nifer fawr a welir am y tro cyntaf, y benthyciadau o ieithoedd eraill, ei ddulliau o ffurfio geiriau cyfansawdd, a geirfa arbenigol amryw feysydd fel crefydd, y gyfraith, masnach a’r meddwl dynol. Roedd y bedwaredd ganrif ar ddeg yn gyfnod o newid mawr yn yr iaith Gymraeg yn sgil datblygiadau cymdeithasol a dylanwadau gan ieithoedd eraill, a manteisiodd Dafydd ar yr ansefydlogrwydd i greu amwysedd cyfrwys. Trwy sylwi’n fanwl ar y defnydd o eiriau gan Ddafydd a’i gyfoeswyr, datgelir haenau newydd o ystyr sy’n cyfoethogi ein dealltwriaeth o waith un o feirdd mwyaf yr iaith Gymraeg.
Innehållsförteckning
Diolchiadau
Rhagymadrodd
Pennod 1 Y Bardd a’i Gefndir
Pennod 2 Crefft Cerdd Dafod
Pennod 3 Geirfa Hynafol
Pennod 4 Geirfa Newydd
Pennod 5 Geiriau Benthyg
Pennod 6 Ffurfiant Geiriau
Pennod 7 Geiriau Cyfansawdd
Pennod 8 Meysydd
Pennod 9 Y Synhwyrau a’r Meddwl
Pennod 10 Amwysedd
Pennod 11 Casgliadau
Llyfryddiaeth
Byrfoddau
Mynegai
Om författaren
Cynulleidfa academaidd, myfyrwyr Cymraeg, darllenwyr cyffredin llengar.