D. Ben Rees 
Cyd-ddyheu a’i Cododd Hi [EPUB ebook] 
Hanes y Blaid Lafur yng Nghymru (eLyfr)

支持

(A history of the Labour party in Welsh by one of its longest standing activists – EBOOK VERSION)

A hithau wedi dominyddu Gwleidyddiaeth Cymru ers dechrau’r ugeinfed ganrif, y Blaid Lafur Gymreig yw un o’r pleidiau gwleidyddol fwyaf llwyddiannus mewn unrhyw wlad, ac mae ganddi ran hollol ganolog yn hanes Cymru dros y ganrif a hanner ers ei sefydlu. Mae gan Gymru ei hun lle hynod bwysig yn hanes y Blaid Lafur, gan mai yng Nghymru yr ennillodd y Blaid ei buddugoliaethau etholaethol cyntaf, a Chymru fu ei chadarnle hynaf a chryfaf erioed.

Serch hynny, cyn nawr ni fu ymdrech i olrhain a chrynhoi hanes cyflawn y Blaid Lafur yng Nghymru yn yr Iaith Gymraeg, o’i rhagflaenwyr ymysg Cristnogion sosialaidd fel Robert Owen drwy at fuddugoliaethau ffurfiol cyntaf y blaid ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, cyfnodau cythryblus mewn llywodraeth ac fel gwrthblaid, a’i chyfnodau o lwyddiant ac o fethiant yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif. Telir sylw teilwng i ffigyrrau Cymreig blaenllaw’r blaid ac i’r cwestiynau hynny oedd o ddiddordeb neilltuol iddynt megis datganoli a’r Iaith Gymraeg.

Mae D. Ben Rees wedi bod yn weithgar gyda’r Blaid Lafur ers y 1950au ac eisoes wedi cyhoeddi bywgraffiadau i amrywiaeth o unigolion ag iddynt ran flaenllaw yn y gyfrol hon, fel Cledwyn Hughes a Jim Griffiths.

€11.99
支付方式
购买此电子书可免费获赠一本!
格式 EPUB ● 网页 216 ● ISBN 9781917237376 ● 文件大小 3.5 MB ● 出版者 Melin Bapur ● 发布时间 2024 ● 版 1 ● 下载 24 个月 ● 货币 EUR ● ID 10082557 ● 复制保护 Adobe DRM
需要具备DRM功能的电子书阅读器

来自同一作者的更多电子书 / 编辑

227,403 此类电子书