Un o dadau cenedlaetholdeb modern yw Emrys ap Iwan (1848-1906), y pregethwr Methodist o Ddyffryn Clwyd. Hon yw’r gyfrol gyntaf arno sy’n dadansoddi’n fanwl seiliau beiblaidd a chrefyddol ei weledigaeth. Mae’n cloriannu ei gefndir a’i fagwraeth, ei addysg yng Ngholeg y Bala ac ar y cyfandir, y dylanwadau Ewropeaidd arno, a’r modd yr aeth ati i ddwyn perswad ar ei gyfoeswyr i ymwrthod a’r bydolwg Prydeinig a Seisnig. Ceir yn ei homiliau athrawiaeth Gristnogol aeddfed a gwar, wedi’i mynegi mewn Cymraeg rhywiog ac yn gyfraniad arhosol i feddwl y genedl; mae’r cysyniadau o ras, gobaith a gogoniant yn cael lle blaenllaw. Yn ogystal a thrafod ei gyd-destun hanesyddol, mae’r gyfrol hefyd yn tanlinellu gwreiddioldeb gwaith Emrys ac yn pwysleisio’i berthnasedd i’r Gymru gyfoes.
D. Densil Morgan
Gras, Gobaith a Gogoniant [PDF ebook]
Crefydd ac Ysbrydolrwydd yng ngwaith Emrys ap Iwan
Gras, Gobaith a Gogoniant [PDF ebook]
Crefydd ac Ysbrydolrwydd yng ngwaith Emrys ap Iwan
购买此电子书可免费获赠一本!
格式 PDF ● 网页 128 ● ISBN 9781837721993 ● 出版者 University of Wales Press ● 发布时间 2024 ● 下载 3 时 ● 货币 EUR ● ID 9995070 ● 复制保护 Adobe DRM
需要具备DRM功能的电子书阅读器