Rebecca Roberts 
Y Defodau [EPUB ebook] 

支持

Dyma nofel newydd gan Rebecca Roberts sy’n cydbwyso galar a llawenydd y defodau sy’n fframio stori Gwawr, gan ddangos sut mae colled yn rhan annatod o fywyd.
Gweinydd yw Gwawr, sef un sy’n cynnal seremonïau enwi, priodasau ac angladdau digrefydd. Mae hi’n cynnal defodau sy’n helpu pobl i ddathlu diwrnodiau gorau eu bywydau, ac i gofio am y meirw. Mae hi’n dda wrth ei gwaith, ac yn falch o’i henw da. Ond am flynyddoedd lawer mae Gwawr wedi cuddio y tu ôl i’r ddelwedd berffaith mae hi wedi ei chreu; wedi mygu ei hiselder y tu ôl i fwgwd o barchusrwydd a phroffesiynoldeb. Pan gaiff y bai ar gam am ddifetha priodas cleient enwog aiff ei henw da yn deilchion, a does ganddi ddim byd arall i’w chynnal. Yn waeth na hynny, ymddengys bod rhywun yn gweithredu’n faleisus yn ei herbyn – yn benderfynol o’i dinistrio! Dim ond drwy ail-ymweld â chyfnod anoddaf ei bywyd y gall Gwawr ddarganfod pwy sy’n ceisio difetha ei gyrfa a’i busnes. Mae’n brofiad heriol, ydy, ond daw cefnogaeth o gyfeiriadau annisgwyl. Gyda chymorth ei chleientiaid a’i ffrindiau, dysga Gwawr wersi pwysig am natur bywyd, cariad a cholled. Ond ar ôl blynyddoedd o gadw pobl o hyd braich, a fydd caniatáu iddi ei hun fod yn fregus yn arwain at ragor o boendod a thor-calon?

€4.79
支付方式

关于作者

Mae Rebecca Roberts wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, gweinydd dyneiddiol, a chyfieithydd. Mae hi’n byw yn Sir Ddinbych gyda’i gŵr a’i dau o blant. Mae hi’n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn awdures chwe nofel. Enillodd #Helynt, ei nofel gyntaf i bobl ifanc, gategori Plant a Phobl Ifanc yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 a Gwobr Tir na n-Óg 2021. Dyma ei nofel gyntaf gyda Gwasg Honno.

购买此电子书可免费获赠一本!
格式 EPUB ● 网页 234 ● ISBN 9781912905652 ● 文件大小 0.4 MB ● 出版者 Honno Press ● 市 London ● 国家 GB ● 发布时间 2022 ● 下载 24 个月 ● 货币 EUR ● ID 8427547 ● 复制保护 社会DRM

来自同一作者的更多电子书 / 编辑

751,402 此类电子书