Gwyneth Vaughan 
Cysgodau y Blynyddoedd Gynt (eLyfr) [EPUB ebook] 

Support

(The first ever publication of Gwyneth Vaughan’s Third Novel; with an introduction by Rosanne Reeves)

 

‚I’r hen Gymry gynt, un o arwyddion y nefoedd ydoedd, yn dangos y dyfodol iddynt. Os byddai’r goleuni yn wyn, disgwylient hwy ddiwygiad crefyddol grymus, ond os goleuni coch fyddai, yna heb os nac oni bai: rhyfel oedd yn arwyddocau.‘

 

Y Sgweier cyfrwys sy’n ceisio rhwydo’r bonheddwr ifanc; y ferch ifanc sy’n hiraethu ar ôl ei chariad; yr etifeddes ddiniwed sy’n wystl i gynlluniau ei thad; yr ysbrydion rhyfedd sy’n rheibio’r plwyf; y blaenor call; yr hen wraig ofergoelus; ac wrth gwrs, y Sipswn, sy’n cyslltu’r rhain i gyd gyda’i gilydd-ac sydd â llawer mwy iddynt na’r golwg…   

 

Wedi’i hysgrifennu’n wreiddiol yn 1907, Cysgodau y Blynyddoedd Gynt oedd trydedd nofel Gwyneth Vaughan ac mae’n ymddangos yma ar ffurf cyfrol am y tro cyntaf erioed, a gyda rhagymadrodd gan Rosanne Reeves. Ynddi cawn portread celfydd o gymuned glan môr ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg: eu gofid a’u gorfoledd, eu dyheu a’u dathlu. Dyma hanes gyffrous o ddirgelwch a rhagrith, o oddefgarwch ac o faddeuant; ond gyda’r nofel hon hefyd cofnododd Gwyneth Vaughan ystod helaeth o ofergoelion a thraddodiadau Cymry’r gorffennol, o’r Aderyn Corff i gyfarfodydd barddonol. 

 

‚Mae ymddiddan y bobl gyffredin yn ddiddanwch pur. Maent mor naturiol ac mor Gymreig…‘ -Mari Ellis

€14.99
Zahlungsmethoden
Dieses Ebook kaufen – und ein weitere GRATIS erhalten!
Format EPUB ● Seiten 320 ● ISBN 9781917237116 ● Dateigröße 5.9 MB ● Verlag Melin Bapur ● Erscheinungsjahr 2024 ● Ausgabe 1 ● herunterladbar 24 Monate ● Währung EUR ● ID 9407758 ● Kopierschutz Adobe DRM
erfordert DRM-fähige Lesetechnologie

Ebooks vom selben Autor / Herausgeber

33.411 Ebooks in dieser Kategorie