Gwyneth Vaughan 
Cysgodau y Blynyddoedd Gynt (eLyfr) [EPUB ebook] 

Supporto

(The first ever publication of Gwyneth Vaughan’s Third Novel; with an introduction by Rosanne Reeves)

 

‘I’r hen Gymry gynt, un o arwyddion y nefoedd ydoedd, yn dangos y dyfodol iddynt. Os byddai’r goleuni yn wyn, disgwylient hwy ddiwygiad crefyddol grymus, ond os goleuni coch fyddai, yna heb os nac oni bai: rhyfel oedd yn arwyddocau.’

 

Y Sgweier cyfrwys sy’n ceisio rhwydo’r bonheddwr ifanc; y ferch ifanc sy’n hiraethu ar ôl ei chariad; yr etifeddes ddiniwed sy’n wystl i gynlluniau ei thad; yr ysbrydion rhyfedd sy’n rheibio’r plwyf; y blaenor call; yr hen wraig ofergoelus; ac wrth gwrs, y Sipswn, sy’n cyslltu’r rhain i gyd gyda’i gilydd-ac sydd â llawer mwy iddynt na’r golwg…   

 

Wedi’i hysgrifennu’n wreiddiol yn 1907, Cysgodau y Blynyddoedd Gynt oedd trydedd nofel Gwyneth Vaughan ac mae’n ymddangos yma ar ffurf cyfrol am y tro cyntaf erioed, a gyda rhagymadrodd gan Rosanne Reeves. Ynddi cawn portread celfydd o gymuned glan môr ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg: eu gofid a’u gorfoledd, eu dyheu a’u dathlu. Dyma hanes gyffrous o ddirgelwch a rhagrith, o oddefgarwch ac o faddeuant; ond gyda’r nofel hon hefyd cofnododd Gwyneth Vaughan ystod helaeth o ofergoelion a thraddodiadau Cymry’r gorffennol, o’r Aderyn Corff i gyfarfodydd barddonol. 

 

‘Mae ymddiddan y bobl gyffredin yn ddiddanwch pur. Maent mor naturiol ac mor Gymreig…’ -Mari Ellis

€13.99
Modalità di pagamento
Acquista questo ebook e ricevine 1 in più GRATIS!
Formato EPUB ● Pagine 320 ● ISBN 9781917237116 ● Dimensione 5.9 MB ● Casa editrice Melin Bapur ● Pubblicato 2024 ● Edizione 1 ● Scaricabile 24 mesi ● Moneta EUR ● ID 9407758 ● Protezione dalla copia Adobe DRM
Richiede un lettore di ebook compatibile con DRM

Altri ebook dello stesso autore / Editore

35.567 Ebook in questa categoria