H. G. Wells 
Y Peiriant Amser (eLyfr) [EPUB ebook] 

Ủng hộ

(e Book of the Welsh Translation of H. G. Wells The Time Machine)

Cydnabyddir H.G. Wells fel un o brif ffigyrau cynnar ffuglen wyddonol, mewn unrhyw iaith. Ysgrifennodd dros bum deg o nofelau ac chyfrir y enwocafohonynt, gan gynnwys The Time Machine, The Island of Doctor Moreau, The Invisible Man, The War of the Worlds ac When the Sleeper Wakes, ymhlith y straeon mwyaf enwog a phoblogaidd erioed. Cafodd ei enwebu bedwar gwaith ar gyfer wobr Nobel mewn llenyddiaeth.

‘Eiliad yn ddiweddarach roedden ni’n dau’n wynebu ein gilydd, minnau a’r creadur bregus hwn o’r dyfodol. Daeth yn syth ataf i, a chwarddodd yn uchel yn fy wyneb. Fe’m trawyd ar unwaith gan y ffaith nad oedd awgrym o ofn ynddo o gwbl.’

Un noswaith yn Llundain tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae gŵr ffraeth a hyddysg yn estyn gwahoddiad i grŵp o’i gyfoedion fod yn dyst wrth iddo arddangos ei ddyfais anhygoel newydd: y Peiriant Amser. Gyda hwn, mae’n teithio cannoedd o filoedd o flynyddoedd i’r dyfodol ac yn cael ei hun mewn paradwys, o’r golwg. Ond pam felly bod popeth i’w weld mewn adfeilion? A beth sy’n llechu dan wyneb y byd rhyfedd 

newydd hwn?   

Nofel gyntaf Herbert George Wells, heb os, yw un o’r portreadau enwocaf o’r dyfodol mewn ffuglen, ac hyd heddiw, mae’n un o’r 

rhai mwyaf arswydus. Y cyfieithiad newydd hwn yw’r tro cyntaf i waith Wells fod ar gael yn y Gymraeg. Cyhoeddwyd Y Peiriant Amser yn 1895 a hi oedd ei nofel gyntaf. Er nad hon oedd y nofel gyntaf i archwilio’r cysyniad o deithio mewn amser, hon sefydlodd y syniad o ‘beiriant amser’ yn y ddychymyg boblogaidd. Heb os, bu’n dylanwad ar Islwyn Ffowc Elis pan ysgrifennodd yntau Wythnos yng Nghymru Fydd, y nofel Cymraeg enwocaf am deithio mewn amser.

(English Description)

This new edition of H. G. Wells Science Fiction classic The Time Machine is the first time any of Wells’ books have been made available in Welsh.

€10.99
phương thức thanh toán
Mua cuốn sách điện tử này và nhận thêm 1 cuốn MIỄN PHÍ!
định dạng EPUB ● Trang 6 ● ISBN 9781917237048 ● Kích thước tập tin 5.4 MB ● Phiên dịch Pearce ● Nhà xuất bản Melin Bapur ● Được phát hành 2024 ● Phiên bản 1 ● Có thể tải xuống 24 tháng ● Tiền tệ EUR ● TÔI 9390854 ● Sao chép bảo vệ Adobe DRM
Yêu cầu trình đọc ebook có khả năng DRM

Thêm sách điện tử từ cùng một tác giả / Biên tập viên

780.327 Ebooks trong thể loại này