Kate Sullivan & Catrin Edwards 
Gwir Gofnod o Gyfnod [EPUB ebook] 
Diogelu Lleisiau Menywod yng Ngwleidyddiaeth Cymru

支持

Sut brofiad yw bod yn fenyw ar flaen y gad mewn bywyd gwleidyddol?
Darganfyddwch naratifau cymhellol menywod yn arwain y gad yng ngwleidyddiaeth Cymru drwy fenter arloesol Archif Menywod Cymru/Women’s Archive Wales. Plymiwch i gyfweliadau didwyll gydag arloeswragedd o Gynulliad Cymru, rhagflaenydd y Senedd, y llywodraeth gyntaf yn y DG i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn 2003.
O’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) o dan arweiniad Gwenda Thomas i’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o dan arweiniad Jane Davidson, archwiliwch storïau am eu cymhellion gwleidyddol, rôl-fodelau, a’r modd y gwnaethant lywio’r heriau o gydbwyso bywyd teuluol â chynrychiolaeth wleidyddol a’u cyfrifoldebau dinesig.
Mae Gwir Gofnod o Gyfnod yn dystiolaeth hanfodol o esblygiad gwleidyddol Cymru. Fel gwaith o bwys arwyddocaol, mae nid yn unig yn talu teyrnged i lwyddiannau’r menywod hynod hyn, ond hefyd yn rhagweld dyfodol lle mae menywod o bob oed a chefndiroedd yn parhau i chwarae rhan ganolog yn y dasg o lunio polisïau a llywodraethu yng Nghymru.
‘Byddai wedi bod yn sgandal i beidio â chofnodi’r cyfweliadau cyfoethog yma gan rai arloeswragedd gwleidyddol go iawn. Heb brosiectau o’r fath byddem yn parhau i gael ein cyfyngu i weld gwleidyddiaeth drwy lens wrywaidd yn unig. Mae’r casgliad safonol a darllenadwy hwn o gyfweliadau nid yn unig yn ddifyr ond yn gyfraniad amhrisiadwy i ddeall datganoli a hanes menywod yng Nghymru hefyd.’ Yr Athro Laura Mc Allister

€4.79
支付方式

关于作者

Catrin Edwards: Ymarferydd theatr; cyfarwyddo, cerdd a chyfansoddi caneuon. Cynhyrchu a cyfarwyddo rhaglenni dogfen am gelfyddyd, cerddoriaeth a hanes. Hanesydd llafar. Diddordebau: Y celfyddydau, chwareuon, hanes a gwleidyddiaeth.

购买此电子书可免费获赠一本!
格式 EPUB ● 网页 122 ● ISBN 9781916821040 ● 文件大小 1.1 MB ● 编辑 Kate Sullivan & Catrin Edwards ● 出版者 Honno Press ● 市 London ● 国家 GB ● 发布时间 2024 ● 下载 24 个月 ● 货币 EUR ● ID 9415586 ● 复制保护 社会DRM

来自同一作者的更多电子书 / 编辑

116,531 此类电子书